Archives par mot-clé : language : welsh / langue : gallois

Edward Thomas (Cochfarf; 1853-1912) a’i rwydwaith Llydaweg

Professor Heather WILLIAMS, research fellow (CAWCS)


Summary : This article gives an overview of the Breton correspondents in Cochfarf’s papers in Cardiff Central Library.

Maer Caerdydd, un o sylfaenwyr Cymrodorion Caerdydd, gŵr busnes, dirwestwr, ymgyrchydd dros addysg, newyddiadurwr, roedd Cochfarf yn llawer iawn o bethau, ac yn ôl Taldir yr oedd hefyd yn gyfaill cyntaf i’r Llydawiaid.1


Christopher Williams, Edward Thomas Esq., Mayor of Cardiff (2902-1903). Credit :Cardiff Council
Continuer la lecture de Edward Thomas (Cochfarf; 1853-1912) a’i rwydwaith Llydaweg
  1. Taldir, llythyr at Cochfarf, Gorffennaf 1912, Casgliad Caerdydd. Cardiff MS 4.1322, courtesy of Cardiff Libraries. []

Cochfarf a’i argraffiadau o Lydaw

Professor Heather WILLIAMS, research fellow (CAWCS)

Summary:
This article traces the impressions of Brittany in letters and articles by Edward Thomas (Cochfarf; 1853-1912), the Cardiff businessman and Gorsedd member, who visited at least nine times in the heyday of Pan-Celticism. In his writing he congratulates himself on being responsible for the growing enthusiasm for all things Breton in Wales. His descriptions are witness to the increasing official recognition for public displays of Celtic identity in France, while his anti-French comments remind us that he was a British Victorian.

Yn seremoni uno dau hanner y cledd yn Eisteddfod Caerdydd 1899, cludwyd hanner Llydaw gan Taldir a hanner Cymru gan Cochfarf, a bron nad yw’r Llydäwr, François Jaffrennou (Taldir) yn enwocach yng Nghymru heddiw na’r Cymro, diolch i’r lluniau trawiadol ohono mewn gwisg Lydewig a’i erthyglau Cymraeg yn Cymru’r Plant a Cymru. Cymeriad a anghofiwyd braidd yw Edward Thomas (Cochfarf; 1853-1912), a ddisgrifiwyd fel ‘cyntaf cyfaill i’r Llydawiaid’ gan Taldir.1 Roedd yn un o drefnwyr Eisteddfod Caerdydd, yn un o sylfaenwyr Cymrodorion Caerdydd yn 1885, a hefyd yn ddyn busnes. Fel dirwestwr, gwerthai goffi yn ei westai a’i ‘dafarndai’, ac fe’i hetholwyd yn Faer Caerdydd yn 1902. Bu’n llythyru gyda nifer o Lydäwyr yn ystod oes aur Pan-Geltigiaeth, a chyhoeddodd hefyd ysgrifau am ei brofiadau yn Llydaw, gan gynnwys yr achlysur pan fu’n llygad-dyst i achos llys Alfred Dreyfus yn Roazhon (Rennes).

Edward Thomas (Cochfarf, 1853 – 1912) (source : Wikimedia Commons)
Continuer la lecture de Cochfarf a’i argraffiadau o Lydaw
  1. Llythr at Cochfarf, Gorffennaf Casgliad Llyfrgell Ganolog Caerdydd. []

“C’est le dragon rouge des Galles qui nous montrera la voie!”

Catrin MACKIE, Myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Rhydychen, Lloegr – Undergraduate student at the University of Oxford – Étudiante de premier cycle à l’Université d’Oxford

Summary / Résumé :

This article concerns the personal archives of Armand Keravel, kept in the CRBC in Brest. The piece is an analysis of a trip conducted by the cultural group “Ar Falz” to Cardiff in August 1960. It aids the understanding of cultural relations, particularly with regard to the success of bilingual education in Wales and the possibility of replicating it in Brittany.

Cet article concerne les archives personnelles d’Armand Keravel, conservées au CRBC de Brest. C’est une analyse d’un voyage par le groupe culturel “Ar Falz” à Cardiff en août 1960. L’article aide à la compréhension des relations culturelles, notamment en ce qui concerne le succès de l’enseignement bilingue au Pays de Galles, et la possibilité de le reproduire en Bretagne.

Cymru fel model i Lydaw ac ymweliad Ar Falz i Gaerdydd, Awst 1960 o archifau personol Armand Keravel

Nôl ym 1911, roedd o ddeutu miliwn o bobl yn siarad Cymraeg a thua’r un faint yn siarad Llydaweg hefyd. Erbyn heddiw, mae’r niferoedd wedi gostwng yn sylweddol; tua hanner miliwn yng Nghymru, a llai na chwarter miliwn yn Llydaw. Er gwaethaf y gostyngiad yma, bu’r ugeinfed ganrif yn gyfnod hollbwysig yn yr ymgyrch i achub y ddwy iaith. Dim ond un ffordd sydd i sicrhau dyfodol diogel i unrhyw iaith ar raddfa sylweddol: addysgu plant drwy gyfrwng yr iaith honno. I’r rheiny oedd eisiau gweld addysg ar gael drwy gyfrwng y Llydaweg yn yr 1950au, roedd y system addysg cyfrwng Cymraeg yn cynnig esiampl… a gobaith.

Continuer la lecture de “C’est le dragon rouge des Galles qui nous montrera la voie!”

Dechrau darganfod archifau’r Cymry yn Llydaw

Ceridwen LLOYD-MORGAN, ancienne conservatrice en chef des manuscrits à la Bibliothèque nationale du pays de Galles

Résumé :

Une visite à Brest en mai 2023 a permis à Ceridwen Lloyd-Morgan d’approfondir ses connaissances des fonds d’archives conservés en Finistère et d’y découvrir, en compagnie de l’archiviste du CRBC, Marie-Alice Le Corvec, de nombreux documents provenant du Pays de Galles ou le concernant. Pour les chercheurs gallois, c’est le fonds Jaffrennou-Taldir aux Archives départementales du Finistère qui propose la plus grande richesse, grâce aux liens d’amitié entre Taldir – lui-même galloisant – et les Gallois qu’il rencontre dès la fin du XIXe siècle. C’est dans le cadre du mouvement panceltique et des associations bardiques qu’il fait tout d’abord la connaissance de plusieurs personnalités du Pays de Galles, mais ses réseaux s’élargissent rapidement et parmi ses correspondants on retrouve politiciens, fonctionnaires, professeurs, poètes et écrivains, artistes, musiciens, hommes (et femmes) d’affaires … Les trois fichiers de « Lettres de Grande-Bretagne » (côte 44J 04-44J 06) des années 1897-1927 fournissent donc une documentation très riche, jusqu’ici presqu’inconnue au Pays de Galles.

Prin yw’r ymchwilwyr o Gymru sydd yn ystyried y gall sefydliadau yn Llydaw gynnig deunydd Cymreig neu Gymraeg perthnasol i’w prosiectau. Ai oherwydd anwybodaeth, ynteu diffyg awydd i fentro i lyfrgelloedd ac archifdai anghyfarwydd ‘draw dros y don’? T. Gwynn Jones piau’r dyfyniad hwnnw, wrth gwrs, a dyna enghraifft o fardd ac ysgolhaig o fri fagodd berthynas agos â Llydaw (ac â’r gwledydd Celtaidd eraill hefyd o ran hynny) ac a adawodd ei ôl fel canlyniad mewn archifau yno. Rhaid pwysleisio mai un yn unig oedd T. Gwynn Jones o blith nifer o Gymry oedd â chyfeillion a chydnabod ymhlith Llydawyr amlwg ei ddydd, fel y darganfûm yn ystod ymweliad â Brest ym mis Mai 2023.

Continuer la lecture de Dechrau darganfod archifau’r Cymry yn Llydaw