Edward Thomas (Cochfarf; 1853-1912) a’i rwydwaith Llydaweg

Professor Heather WILLIAMS, research fellow (CAWCS)


Summary : This article gives an overview of the Breton correspondents in Cochfarf’s papers in Cardiff Central Library.

Maer Caerdydd, un o sylfaenwyr Cymrodorion Caerdydd, gŵr busnes, dirwestwr, ymgyrchydd dros addysg, newyddiadurwr, roedd Cochfarf yn llawer iawn o bethau, ac yn ôl Taldir yr oedd hefyd yn gyfaill cyntaf i’r Llydawiaid.1


Christopher Williams, Edward Thomas Esq., Mayor of Cardiff (2902-1903). Credit :Cardiff Council

Pwy felly oedd ei gyfeillion yn Llydaw? Daeth i gysylltiad â nifer o Lydäwyr yn 1899 yn sgil ei waith fel un o drefnwyr yr eisteddfod ban-Geltaidd yng Nghaerdydd, y daeth dirprwyaeth o ryw bump ar hugain o Lydäwyr iddi, a fel ceidwad y cledd. Yn dilyn yr achlysur fe ymwelodd Cochfarf â Llydaw sawl gwaith ac fe ohebodd hefyd gyda nifer o Lydäwyr yn ystod oes aur Pan-Geltigiaeth i drefnu teithiau ac i rannu newyddion am sefyllfa’r ieithoedd a’r adfywiad diwylliannol. Dyma’r llythyrwyr o Lydaw a welir ymysg papurau Cochfarf yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd:

François Jaffrennou (Taldir; 1879-1956)


Collection Émile Hamonic (1861-1943), Public domain, via Wikimedia Commons



Roedd François Jaffrennou, sy’n fwy adnabyddus yng Nghymru wrth ei enw barddol Taldir, yn awdur toreithiog yn Llydaweg, Ffrangeg a Chymraeg. Bu i Taldir gwrdd â’r artist John Kelt Edwards (Pwyntil Meirion; 1875–1934) ym Mharis ym Mehefin 1899, a dechreusant drafod Eisteddfod Caerdydd. Fe dderbyniwyd Taldir i Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn yr eisteddfod honno; yna aeth Taldir i aros gyda rhieni Kelt ym Mlaenau Ffestiniog, ac ysgrifennodd am y profiad yn Cymru (1899), La Genèse d’un mouvement (1912) ac Eur wech e oa (1944). Roedd Taldir yn un o sylfaenwyr Gorsedd Llydaw, a bu’n Drouiz-Meur arni. Cyfieithodd Taldir ‘Mae Hen Wlad fy Nhadau’ i’r Llydaweg yn 1897, ac fe ddewiswyd ‘Bro Gozh ma Zadoù’ fel anthem Llydaw yn 1903 yn dilyn ei mabwysiadu gan yr Union Régionaliste Bretonne. Ceir 18 llythyr yn Gymraeg ganddo yn y casgliad, a cheir 10 o lythyron gan Cochfarf ato ef yn yr Archives déparementales du Finistère. Trefniadau teithio yw prif bwnc llythyron Taldir, yn enwedig am ymweliad y Cymry â Sant-Brieg yn 1906.


François Vallée (Abhervé; 1860-1949). athro Cymraeg a Llydaweg,


Undenbennak, CC BY-SA 4.0 <https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0>, via Wikimedia Commons


Athro Cymraeg Taldir oedd François Vallée (Abhervé; 1860–1949), o Sant-Brieg (Saint-Brieuc). Roedd hefyd yn un o’r ddirprwyaeth o Lydäwyr a dderbyniwyd i Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn Eisteddfod Caerdydd 1899. Yn dilyn eu hymweliad â Chymru cyhoeddodd y ddau gyfrol farddoniaeth gwbl ddwyieithog gyda’r Gymraeg a’r Llydaweg yn wynebu’i gilydd. Mae nifer o’r cerddi yn Gwerziou gant Abhervé ha Taldir yn disgrifio neu wedi eu cyflwyno i Gymry oedd wedi chwarae rhan amlwg yn yr Eisteddfod allweddol yng Nghaerdydd, gan gynnwys Cochfarf.2 Roedd Vallée yn olygydd y cyfnodolyn wythnosol Kroaz ar Vretoned, ac yn aml daw rhifyn o’r cylchgrawn gyda llythyr ganddo at Gochfarf. Ceir 12 llythyr yn Gymraeg ganddo yn y casgliad.

Yves Le Moal (1874-1957), athro ysgol yn Sant Brieg (Saint-Brieuc), a dderbyniwyd i orsedd Llydaw yn 1900. Cynorthwyodd François Vallée gyda’r cyfnodolyn Kroaz ar Vretoned o 1898 gan ddod yn olygydd arno yn 1907. Ceir cerdyn Nadolig ganddo yn y casgliad.

Postcard from Yves Le Moal in Brittany wishing Edward Thomas a Merry Christmas and Happy New Year.(1 side, handwritten). Courtesy of Cardiff Libraries.


Renan (neu René) Saïb, sef M. André Degoul (1870-1946), newyddiadurwr yn An Oriant (Lorient). Etholwyd yn ysgrifennydd adran lenyddol yr Union Régionaliste Bretonne yn 1898, a derbyniwyd i Orsedd Llydaw fel ‘An Hader’. Cydolygodd y cyfnodolyn misol dwyieithog
Kloc’hdi Breiz/ Le Clocher breton gyda’i wraig Florentine Monier (1873-1939) (nom-de-plume: Mme Madeleine Desroseaux). Cafodd Cochfarf ginio gyda nhw yn ystod ei ymweliad cyntaf â Llydaw yn 1899. Saïb wahoddodd Cochfarf i chwarae rhan flaenllaw yn nathliadau canmlwyddiant y bardd Auguste Brizeux yn An Oriant (Lorient) yn 1903. Ceir llythyr gwahoddiad ganddo yn Ffrangeg yn y casgliad, yn ogystal â chopi o ateb Cochfarf ato yn derbyn y gwahoddiad i ddathliadau canmlwyddiant y bardd Auguste Brizeux yn An Oriant yn 1903.

Octave Louis Aubert (1870-1950), newyddiadurwr, golygydd ac awdur o Sant Brieg (Saint-Brieuc). Bu’n ddylanwad mawr ar ddatblygiad twristiaeth yn Llydaw, gan olygu La Bretagne touristique rhwng 1922 ac 1939, a dod yn Llywydd Swyddfa Dwristiaeth y dref.3 Ef oedd ysgrifennydd Gŵyl Sant Brieg 1906 a groesawodd ddirprwyaeth o Gymru. Ceir gwahoddiad ar gyfer ugain o bobl i’r Ŵyl honno, yn ogystal â dau lythyr yn Ffrangeg ganddo yn y casgliad, yn gofyn i Gochfarf ddod â hanner Cymru’r cleddyf a thelynor os yn bosib.

Théodore Botrel (1868–1925), canwr poblogaidd o Lydaw a fynychodd yr ail Gyngres Geltaidd yng Nghaernarfon yn 1904. Ceir cardiau post ganddo yn y casgliad.


Nathalie de Volz-Kerhoënt (Gwenfrewi; 1871-1964), ganed yn Baden a dysgodd Lydaweg fel oedolyn. Cyhoeddodd gasgliad cymysg o ryddiaith a barddoniaeth Er Bleù Keltiek: Sorbienneu ha Guerzenneu (Keraez: Armorica, 1930) sy’n cynnwys rhagair gan Taldir. Derbyniwyd i Orsedd Llydaw yn Rieg (Riec-sur-Belon), Awst 1927. Ceir 4 eitem ganddi yn y casgliad, yn Ffrangeg ac yn Saesneg.

Maurice Le Dault (Leorlenner; 1871-1956), cyfarwyddwr y cyfnodolyn llenyddol Spered ar Vro, a sylfaenydd Ar Furcher brezonek/ Le Fureteur breton yn 1905. Derbyniwyd i Orsedd Llydaw yn 1901, roedd yn un o’r myfyrwyr Llydaweg eu hiaith ym Mharis a berthynai i’r grŵp ‘Jabado’. Agorodd siop lyfrau Llydaweg ym Mharis yn 1902, dychwelodd i Kemper (Quimper) gyda’i siop lyfrau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir llythyr ganddo yn Ffrangeg yn y casgliad yn cynnig cyfnewid cyfnodolion.


Alfred Lajat (1873-1956), newyddiadurwr ac argraffwr a weithiodd ar y cyfnodolyn Ar Vro gyda Taldir o 1904. Derbyniwyd i Orsedd Llydaw yn 1900 fel ‘Mab an Argoat’. Un o sylfaenwyr Ti Kaniri Breiz (Tŷ cantorion Llydaw) yn 1900, a arweiniodd at sefydlu Gorsedd Llydaw. Mynychodd Eisteddfod Merthyr Tudful 1901. Ceir llythyr ganddo yn y casgliad am y posibilrwydd o ddechrau gwasanaeth agerlong rhwng De Cymru a Llydaw.



Leon Le Berr (1874-1946), newyddiadurwr ac awdur, un o sylfaenwyr Ti Kaniri Breiz (Tŷ cantorion Llydaw) yn 1900. Enw barddol ‘Ab Alor’ neu ‘Abalor’. Roedd ei Saesneg yn rhugl. Dysgodd Lydaweg fel oedolyn, ac ysgrifennodd lawer yn Ffrangeg ac yn Llydaweg ar gyfer yr Emsav. Mynychodd Eisteddfod Abertawe 1907.


Jean/Yann Rumengol, Naoned (Nantes). Is-lywydd adran hanes a llenyddiaeth yr Union Régionaliste Bretonne hyd at 1908. Anfona gopi o’r cyfnodolyn Le Terroir Breton at Gochfarf yn 1903, sy’n cynnwys adroddiad o ddathliadau canmlwyddiant Brizeux.


Francis Éven (Karevro; 1877-1959), cyfreithiwr ac un o sylfaenwyr yr Union régionaliste bretonne yn 1898 a Gorsedd Llydaw. Anfona lun o’r faner a roddwyd gan Orsedd Cymry i’r Llydäwyr. Cedwir ei bapurau yn y CRBC.


Pol Diverres (1880-1946), ieithydd ac ysgolhaig Celtaidd a aned yn An Oriant (Lorient) ac a addysgwyd ym mhrifysgolion Roazhon (Rennes) a Pharis; bu’n ddisgybl i Joseph Loth. Dysgodd Gymraeg, priododd Gymraes (Elizabeth Jones) yn 1913, a bu’n geidwad llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1919-1923), cyn treulio gweddill ei yrfa yn yr adran Ffrangeg yng Ngholeg y Brifysgol yn Abertawe. Cedwir ei bapurau a’i lyfrgell Geltaidd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir yng nghasgliad Cochfarf lythyr ganddo at J. Austin Jenkins yn Saesneg o Baris yn 1906 ble mae’n sôn am ei ddymuniad i ymweld â Chymru ac am drefnu gwersi Cymraeg ym Mharis.

Letter from Pol Diverres living in Paris saying that he is running Breton and Welsh
lessons in Paris. He would like help in advertising the lessons to Welsh people living
in Paris.(3 sides, printed). Courtesy of Cardiff Libraries.


Théophile Janvrais (1865?-1949?) Ysgrifennodd o dan y ffugenw René d’Ys. Cyhoeddodd ‘Souvenirs de Bretagne, L’ex-voto’, Société des bibliophiles bretons et de l’histoire de Bretagne, 10 (1893), 314-18 ; Les Sinistres d’Islande, leurs causes et les moyens de les prévenir (Paris : Chapelot, 1901), Nos marins-pêcheurs : leur alcoolisme (1902), Ernest Renan : les étapes de sa vie bretonne (1903), Le Berceau des Villiers de L’Isle-Adam (1913). Ceir dau lythyr ganddo yn Ffrangeg yn y casgliad yn gofyn am wybodaeth fanwl a lluniau o’r Archdderwydd Hwfa Môn, ac esboniad o sut etholir Archdderwydd newydd.

  1. Taldir, llythyr at Cochfarf, Gorffennaf 1912, Casgliad Caerdydd. Cardiff MS 4.1322, courtesy of Cardiff Libraries. []
  2. Heather Williams, ‘Are the Bretons French? The case of François Jaffrennou/ Taldir ab Hernin’, Nottingham French Studies, 60:2, (2021), 192-205. Are the Bretons French? The Case of François Jaffrennou/Taldir ab Hernin | Nottingham French Studies []
  3. Patrick Young, Enacting Brittany: Tourism and Culture in Provincial France, 1871-1939 (Alsershot: Ashgate, 2012), tt. 94, 121. []

OpenEdition vous propose de citer ce billet de la manière suivante :
heatherwilliams (20 février 2025). Edward Thomas (Cochfarf; 1853-1912) a’i rwydwaith Llydaweg. DreAM-CollEx. Consulté le 12 janvier 2026 à l’adresse https://doi.org/10.58079/13cff


Laisser un commentaire

Votre adresse e-mail ne sera pas publiée. Les champs obligatoires sont indiqués avec *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.