Cochfarf a’i argraffiadau o Lydaw

Professor Heather WILLIAMS, research fellow (CAWCS)

Summary:
This article traces the impressions of Brittany in letters and articles by Edward Thomas (Cochfarf; 1853-1912), the Cardiff businessman and Gorsedd member, who visited at least nine times in the heyday of Pan-Celticism. In his writing he congratulates himself on being responsible for the growing enthusiasm for all things Breton in Wales. His descriptions are witness to the increasing official recognition for public displays of Celtic identity in France, while his anti-French comments remind us that he was a British Victorian.

Yn seremoni uno dau hanner y cledd yn Eisteddfod Caerdydd 1899, cludwyd hanner Llydaw gan Taldir a hanner Cymru gan Cochfarf, a bron nad yw’r Llydäwr, François Jaffrennou (Taldir) yn enwocach yng Nghymru heddiw na’r Cymro, diolch i’r lluniau trawiadol ohono mewn gwisg Lydewig a’i erthyglau Cymraeg yn Cymru’r Plant a Cymru. Cymeriad a anghofiwyd braidd yw Edward Thomas (Cochfarf; 1853-1912), a ddisgrifiwyd fel ‘cyntaf cyfaill i’r Llydawiaid’ gan Taldir.1 Roedd yn un o drefnwyr Eisteddfod Caerdydd, yn un o sylfaenwyr Cymrodorion Caerdydd yn 1885, a hefyd yn ddyn busnes. Fel dirwestwr, gwerthai goffi yn ei westai a’i ‘dafarndai’, ac fe’i hetholwyd yn Faer Caerdydd yn 1902. Bu’n llythyru gyda nifer o Lydäwyr yn ystod oes aur Pan-Geltigiaeth, a chyhoeddodd hefyd ysgrifau am ei brofiadau yn Llydaw, gan gynnwys yr achlysur pan fu’n llygad-dyst i achos llys Alfred Dreyfus yn Roazhon (Rennes).

Edward Thomas (Cochfarf, 1853 – 1912) (source : Wikimedia Commons)

Papur Pawb, 5 Awst 1899, p. 8 (source : Welsh Newspapers, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Mae gwybodaeth Cochfarf o Lydaw yn ffrwyth rhywfaint o astudio a darllen (e.e. derbyniai gyfnodolion o Lydaw), ond y mae hefyd yn ganlyniad i ryw naw ymweliad â Llydaw yn negawd cyntaf yr ugeinfed ganrif.2 Dyma’r ymweliadau y canfyddais ddisgrifiadau ysgrifenedig ohonynt: Gwened (Vannes) 1899; An Oriant (Lorient) 1903; Sant Brieg (Saint Brieuc) 1906; Naoned (Nantes) 1910; ac nid yw’n glir a deithiodd i Douarnenez yn 1912.

Dysgwn am ei argraffiadau o Lydaw yn ei lythyron at gyfeillion yn Llydaw, ac yn yr erthyglau a gyhoeddodd. Mae’r rhain yn cynnwys taithysgrifau byr mewn papurau newydd a chyfnodolion, a hefyd adroddiadau yng ngholofn ‘Cochfarf’s Comments’ yn yr Evening Express.


Gwened (Vannes) 1899, 22-28 Awst


Cynhaliwyd cyngres Geltaidd, neu ‘Eisteddfod Genedlaethol gyntaf y Llydawiaid’ yng ngeiriau Cochfarf, yn Gwened ddiwedd Awst 1899. Cyhoeddodd Cochfarf erthyglau yn Saesneg am ei daith yn The Cardiff Times 9 Medi 1899, t. 3 a’r South Wales Daily News, 5 Medi 1899, t. 6. Yn Gymraeg cyhoeddodd ‘Cochfarf yn Llydaw: Eisteddfod Genedlaethol Gyntaf’, The London Kelt (30 Medi 1899), ‘Llydaw a’r Fasnach Feddwol’, Y Tyst Dirwestol, 3:29 (Mai 1900), tt. 73-4, a ‘M Vallée, y dirwestwr Llydewig’, Y Tyst Dirwestol, 3:30 (Medi 1900), t. 85. A cheir ei argraffiadau preifat yn y deg o lythyron ganddo at Taldir a gedwir yn yr Archives départementales du Finistère. Mae naw o’r rhain yn Gymraeg ac un yn Saesneg, ac mae dau ohonynt yn ddiddorol iawn. Dywed ar 10 Medi 1899:


Ni fi dim yn fwy dymunol i mi yn ystod fy holl fywyd na’r ychydig amser a fûm yn Llydaw. Ambell dro pan yn meddwl am y daith, yr wyf yn teimlo fel pe buaswn wedi bod am dro yng ngwlad y tylwyth teg (fairies). Yr oedd popeth mor newydd i mi, a throeon arall teimlaf fel pe buaswn yn sydyn wedi darganfod bro Gymru arall y tu draw i’r mor.


Mae’r syniad o dylwyth teg yn drawiadol, gan fod hyn yn awgrymu rhywbeth egsotig o wahanol i Gymru, neu rywbeth cyntefig ac ofergoelus efallai. Ond ar yr un pryd mae’r tebygrwydd yn ei daro. Honna Cochfarf fod ei gyhoeddiadau ef yn gyfrifol am ennyn diddordeb yn Llydaw ymysg ei gyd-Gymry:


Mae llawer iawn o Gymru wyf yn gyfarfod yn methu credu fod iaith ac arferion, cerddoriaeth a thraddodiadau Llydaw a Chymru mor debyg i’w gilydd ond y mae fy nhystiolaeth i wedi creu awydd anarferol ym mhlith lliaws o fy nghyfeillion i ddyfod am dro i Lydaw.


Ac yn wir, gwelir Cochfarf yn gweithredu fel rhyw fath o asiant teithio rhyng-Geltaidd a fyddai’n cynnig cyngor ac ysgrifennu geirda i Gymru a oedd yn dymuno ymweld â Llydaw, fel yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol John Herbert Lewis (1858-1933):


Mae Mr J Herbert Lewis, un o’r Aelodau Seneddol Cymreig (Member of Parliament) yn bwriadau treulio dwy wythnos yn Llydaw gyda ei wraig, a gofynnodd i mi am lythyr atoch chwi, yr hwn wyf wedi ei rhoddi. Mae ef yn Genedlaethwr trwyadl (Nationalist) ac yn caru Breiz. Mae yn ŵr cyfoethog, felly pan ddaw atoch na chynigiwch dalu drosto am ddim. Bydd yn dda ganddo dalu drosoch chwi. Cyfaill Tom E. Ellis a Lloyd George ydyw ef. (Cochfarf at Taldir Jaffrennou, 28 Mai 1900).


Mewn ôl-nodyn mae’n rhybuddio’i gyfaill Taldir, sydd hefyd yn chwarae rôl hwylusydd ymweliadau rhyng-Geltaidd, y bydd llawer o Gymry yn dod i Lydaw yn haf 1900: ‘P.S. Yr wyf wedi ysgrifennu llawer am fy nhaith yn Llydaw, ac yn mae llawer yn dyfod i Llydaw eleni’. Ysgrifennodd Daniel Radcliffe, y gŵr busnes o Gaerdydd at Cochfarf i ofyn am lythyr i’w gyflwyno i lenorion Llydewig wrth gynllunio taith ar 27 Gorffennaf 1912. Ufuddhaodd Cochfarf, ac mae gennym lythyron i brofi iddo wneud yr un ffafr â W. R. Watkins o Faesteg yn haf 1909, ac E. P. Hughes ym mis Hydref 1912.


Ychydig fisoedd yn ddiweddarach ar 16 Ionawr 1900 mewn llythyr arall at Taldir, dysgwn ragor am ffordd Cochfarf o ledaenu’r neges am Lydaw:


Nid yw fy nghydwladwyr fyth yn blino fy nghlywed yn siarad am fy ymweliad a Llydaw a’r hyn sydd gennyf i’w ddwedyd amdanynt hwy a’u gwlad. Traddodais ddarlith yn y capel yr wyf fi a fy ngwraig yn perthyn iddo ar y testun “Wythnos yn Llydaw” a hysbyswyd ar y garden y buasai fy ngwraig (Madame Hughes-Thomas) yn rhoddi enghraifft o gerddoriaeth Llydaw ar y piano. Cawsom gyfarfod llawn, a gwrandawodd pawb arnaf am ddwy awr ac yr oeddynt mor frwdfrydig a minnau. Prynais lawer o Alawon Llydaw cyn ymadael o St. Malo, a dewisodd fy ngwraig ddau gasgliad yn cynnwys yr alawon ydyn ni yng Nghymru yn adnabod fel “Ar hyd y nos” a ‘Rhyfelgyrch Cadben Morgan’ (Seiziz Gwengamp) a phan glywodd y gynulleidfa yr alawon hyn yn cael eu chwarae yn mhlith Alawon Breiz credant mai Mrs Thomas ydoedd wedi chwarae trick a hwynt, ond pan ddeallasant mai gwirionedd oedd fod yr un caneuon yn cael eu canu yn Nghymru a Breiz, torasant i guro dwylo mewn hwyl fawr.


Mae cerddoriaeth yn ffordd drawiadol o bwysleisio perthynas agos y Cymry a’r Llydäwyr, ac mae hyn yn taro’r Cymry sydd yn mynd i Lydaw hefyd. Mae’n fersiwn amgen o’r straeon cyfarwydd am gyd-ddealltwriaeth ieithyddol sy’n britho taithysgrifau ac erthyglau newyddiadurol hyd heddiw. Mae’r llythyr yn gorffen gyda’r hysbysiad bod yr Aelod Seneddol William Llewelyn Williams (1867-1922) am ymweld; mae’n ‘bwriadu dyfod i Llydaw yr haf nesaf, wedi fy nghlywed i yn siarad am y wlad’.


Ond yn un o’i erthyglau yn y wasg am yr un ymweliad, mae Cochfarf yn cynnwys stori wahanol iawn, sef un Alfred Dreyfus, y swyddog milwrol Ffrengig o dras Iddewig a gyhuddwyd ar gam o ysbïo i’r Almaen. Yn ‘Cochfarf yn Llydaw: Eisteddfod Genedlaethol Gyntaf’, The London Kelt (30 Medi 1899), ceir hanes y daith yn llawn ganddo ar draul disgrifiad o’r Ŵyl ryng-Geltiadd yn Gwened, gellid dadlau. Yn teithio gyda Cochfarf o Gymru yr oedd dau gyd-aelod o Gymrodorion Caerdydd: Dr J. Llewelyn Taerwn a Mr Charles Morgan. Yn yr orsaf mae wrth ei fodd yn cwrdd â John ‘Kelt’ Edwards (Pwyntil Meirion), yr artist o Flaenau Ffestiniog, a’r Abad Leclerc, athro o Gwengamp (Guingamp). Pan gyrhaeddant Saint Malo am 9 y bore ar 19 Awst, cânt drafferth i fewnforio ‘dau bwys o de’ Kelt Edwards, ac yna ânt ar y trên i Roazhon ac oddi yno ymlaen i Gwened. Cawn ganddo ei argraffiadau o dirlun ffrwythlon Llydaw:


pan yn chwyrnellu drwy y meysydd gwelid arwyddion ar bob llaw ein bod mewn gwlad dda odiaeth. Ar bob llaw i'r ffordd haearn yr oedd perllannau di-ben-draw, a'r coed afalau yn doreithiog gan ffrwythau aeddfed-felyn. Lle nad oedd perllannau yr oedd coed ffrwythau yn tyfu gwrychoedd (perthi ddywedai pobl Morganwg) ac yn rhesi yn y meysydd, yr oll yn plygu dan bwysau eu cyfoeth hydrefol.

Wrth gyrraedd Roazhon toc cyn cinio sylweddolant fod achos Dreyfus yn digwydd gerllaw ac ânt yn ddiymdroi tua’r llys yn rue de Garonne. Sioc i’r Cymry yw presenoldeb milwyr, sy’n eu rhwystro rhag mynd yn rhy agos, ac yn ysgogi sylw bach gwrth-Ffrengig: ‘cawsom achos i sylweddoli mai nid ym Mhrydain ryddid garol yr oeddem’.

Dyn tal, bron chwe throedfedd oedd Cochfarf, ac felly mae’n optimistaidd y bydd yn medru gweld uwchben y dorf. Pan ddaw’r newydd fod yr achos wedi ei ohirio hyd ddydd Llun, gwelant farchogion mewn dwy res, ac yna dwy res arall o filwyr. Mae’r dorf yn enfawr a’r tawelwch yn llethol pan glywir gwaedd ‘Attention!’ cyn i ddau ddyn ddod allan o’r llys. Mae Cochfarf yn adnabod yr ail yn syth diolch i’w aeliau du a’i sbectol arbennig ‘pince-nez’, gan iddo weld cannoedd o luniau ohono yn y wasg ym Mhrydain. Mae’r dyn yn stopio ac yn edrych tuag at ble mae Cochfarf a’i ffrindiau yn sefyll, gan roi’r argraff i Cochfarf ei fod yn syllu’n syth ato. A dyma gyffro wrth sylweddoli:


Wele o fewn ergyd carreg i ni y person y mae mwyaf o sôn am dano yn yr holl fyd gwareiddiedig ar hyn o bryd. Efe oedd Cadben Dreyfus.


Ceisia Cochfarf ddychmygu anobaith Dreyfus wrth iddo fynd yn ôl i’r carchar, wedi ei amgylchynu gan filwyr ‘fel bleiddiaid gwlad anobaith yn sychedu am ei waed ef’, a chawn sylw bach gwrth-Ffrengig arall wrth iddo gyferbynnu rhyddid Prydeinig gyda chaethiwed Ffrengig:


Mae yr ysbryd milwrol yn llethu pob peth yn Ffrainc, yn llethu rhyddid a chyfiawnder; ac y mae ei ddylanwad difäol yn gwasgu dynoliaeth allan o'r bobl.


Ymddengys fod Cochfarf yn teimlo trueni dros Ffrainc, neu efallai mai teimlo’n uwchraddol wna, rhywbeth a fyddai’n nodweddiadol o Brydeiniwr oes Fictoria. Gwelir yr un agwedd yn nhaithysgrif O. M. Edwards Tro yn Llydaw o ddegawd ola’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef agwedd Prydeiniwr sy’n meddwl bod rhywbeth cyntefig am y Ffrancwr Pabyddol. Yn achos Dreyfus rhaid cofio bod hyd yn oed y Frenhines Fictoria o’i blaid, a bod hyn, yn dawel bach, yn ffordd o fod yn wrth-Ffrengig gan fod Ffrainc ar y cyfan yn erbyn Dreyfus. Felly dyma Gelt o blaid Dreyfus, sydd i’w gyferbynnu â rhai o’r Llydäwyr gwrth-Dreyfus a ddaeth i Eisteddfod Caerdydd yn 1899 (e.e. Charles Le Goffic). Cyffrous meddwl am grŵp bach o Gymry fu’n dystion i’r bwrlwm ar y stryd ar 19 Awst 1899 y tu allan i ail achos llys Dreyfus cyn ei ail gondemniad. Er i Llewelyn Treharne sôn am y profiad yn ei erthygl ‘Impressions of the Breton Eisteddfod at Vannes’, Young Wales 5:57 (Medi 1899), tt. 212-216, dim ond gan Cochfarf y, hyd y gwn i, y cawn ddisgrifiad llawn yn Gymraeg.


An Oriant (Lorient) 1903


Yn 1903 cytunodd Cochfarf i arwain y ddirprwyaeth o Gymru i ddathliadau canmlwyddiant y bardd Auguste Brizeux yn An Oriant ar 12 Medi. Erbyn hyn roedd Cochfarf wedi ei ethol yn Faer Caerdydd ac o ganlyniad ceir llawer o erthyglau am ei daith yn y wasg yn Ne Cymru. Ceir sawl pwt o dan y teitl ‘Cochfarf’s Comments’, yn yr Evening Express (15 Ebrill 1903, 12 Medi, 16 Medi, 17 Medi) a’r Weekly Mail (19 Medi), a dau ‘lythyr’ yn Gymraeg ganddo ar ‘Canmlwyddiant Auguste Brizeux (Prifardd Llydaw)’ yn Tarian y Gweithiwr, 24 Medi a 1 Hydref 1903.


Portread Auguste Brizeux. Musée de Bretagne (source : Wikimedia Commons)


Ceir portread o Taldir, sydd newydd ddychwelyd i Lydaw yn dilyn cyfnod o wasanaeth milwrol ac astudiaethau prifysgol, ac effaith ei araith ddirdynnol ar y dorf:

Mae Jaffrennou (Taldir) yn glamp o wladgarwr o’i sawdl i’w goryn, a gwyr y Llydawiaid hynny yn dda, a phan ganfyddodd y dorf aruthrol ef yn sefyll yn bennoeth yn barod i’w hanerch, derbyniwyd ef gyda banllefau byddarol, ac o’r braidd y galloedd orchfygu ei deimladau yn ddigonol i allu cychwyn ei araeth.[…]
Nis gallasai unrhyw wladgarwr fod yn llygad-dyst o’r olygfa ryfedd wyf wedi ceisio ei disgrifio heb deimlo cyffroad hyd waelod ei enaid. O’r hyn lleiaf, gwnaeth y digwyddiad argraff rhyfedd ar feddyliau fy ngwraig a minnau, a chylymodd ein serchiadau at blant dirodres Breiz Isel yn dynnach yn y man nag erioed o’r blaen. (Tarian y Gweithiwr, 1 Hydref 1903, t. 5)


Esbonia Cochfarf fod yn well ganddo Taldir na Théodore Botrel, y canwr enwog sy’n apelio at gynulleidfaoedd theatr ym Mharis, oherwydd gallu cyntaf i gyfathrebu gyda’r Llydäwyr cyffredin. Ceir hefyd bortread o Joseph Loth (1847 – 1934), yr ysgolhaig Celtaidd a briododd Gymraeg, sydd ar dân yn erbyn polisïau addysg gwrth-Lydaweg llywodraeth Ffrainc:


When he stood up to speak he disclosed a pair of eyes that could flash fire. His thick-set frame and his firm-set head betokened a strength of character that could command attention or hurl defiance just as occasion would require. […] of hardships imposed upon France’s peaceful subjects in Brittany through the refusal of the President of the French Council of Education to favour the exercise of the Breton language, and he gained a thundering response from his audience when he called upon Bretons not to rest until such a Government was turned out of office. (‘Cochfarf’s notes: Eisteddfod at L’Orient, Brittany’, Weekly Mail, 19 Medi 1903, t. 10, sef ailargraffiad o ‘Cochfarf’s Comments’, Evening Express, 16 Medi 1903, t. 2)


Loth hefyd fu’n gyfrifol am gyfieithu araith Gymraeg Cochfarf i’r Ffrangeg, er bod hwnnw’n ceisio dadlau yma bod modd i Lydäwyr ddeall Cymraeg pwyllog:


I had the gratification of realising that a Welsh address delivered in a deliberate manner and in plain terms was, to a considerable degree, intelligible to a Breton-speaking assemblage; but, in order that all the remarks I made should be understood, Dr Loth paid me the unexpected compliment of fully translating them at a later stage of the proceedings. (Evening Express 12 Medi 1903, t. 2)


Wrth i ddegawd gyntaf yr ugeinfed ganrif fynd rhagddi, ceir cynnydd yn y gydnabyddiaeth swyddogol a welir mewn digwyddiadau Celtaidd, wrth i’r rhain esblygu o fod yn ddigwyddiadau preifat neu gyfrinachol ar y cyrion, i fod yn sioe ar gyfer y cyhoedd. Mae’r presenoldeb milwrol yn elfen sy’n adlewyrchu’r esblygiad hyn, ac yn un a roddodd benbleth i Cochfarf. Mae’r Cymro’n synnu bod lle mor filwrol â thref An Oriant yn gartref i bobl mor Llydewig, roedd yn amlwg yn disgwyl i le o’r fath fod yn fwy Ffrangeg ei naws:


[Lorient] has all the conditions which tend to adversely affect sentiments other than those of the dominant partner. (Weekly Mail, 19 Medi 1903, t. 10, sef ailargraffiad o ‘Cochfarf’s Comments’, Evening Express, 16 Medi, t. 2).


I’r gwrthwyneb, meddai, maent yn Llydewig o’u corun i’w sawdl. Ond barna nad yw hyn yn amharu ar eu hymlyniad at Ffrainc, a bod y cydbwysedd yn eu hunaniaeth yn un perffaith:


This does not prevent any of them being ready at all times to fulfil the duties of French citizenship, for the Army finds among them some of its best soldiers, and the navy is manned to a greater extent by them than by any other subjects of the Republic. (fel uchod)


Yn wir, tybia Cochfarf y dylai’r cydbwysedd hwn warchod y Llydäwyr rhag erledigaeth gan wladwriaeth Ffrainc:


Rwyf yn methu a dirnad pwy ysbryd drwg sydd yn cymell awdurdodau Paris i erlid pobl sydd yn rhoddi iddynt gan mil o filwyr, a dau gan mil o fôr-filwyr. (‘Ymweliad â Llydaw’, Cymru 25: 147 (15 Hydref 1903), tt. 149-150).


Ac mewn erthygl arall mae Cochfarf wedi cael llond bol ar yr hyn a eilw’n ‘arddangosiadau milwrol’ Ffrainc (Tarian y Gweithiwr, 1 Hydref 1903, t. 5).


Nodwedd arall ddiddorol yn y drafodaeth ar berthynas Cymru a Llydaw a welir yn yr erthyglau hyn yw’r awgrym bod angen help y Cymry Cymraeg ar Lydaw druan. Mewn un erthygl gwnaiff Cochfarf apêl:

Goddefer i mi ofyn am gydymdeimlad gwladgarwyr Cymru â Brythoniaid Arfor,
[...]
a chredaf yn wirioneddol mai o Gymru yr aiff iachawdwriaeth i’n perthynasau sydd tu draw i’r môr
[...]
Teimlaf yn gryf y dylem ni yng Nghymru estyn llaw o gymorth iddynt.
(‘Ymweliad â Llydaw’, Cymru 25: 147 (15 Hydref 1903), tt. 149-150)


Yr hyn sydd gan Cochfarf mewn golwg yw’r frwydr i warchod iaith a thraddodiadau Llydaw, i ymladd yn erbyn alcohol, ac i drechu agweddau negyddol Paris tuag at yr iaith. Mae cynnig cymorth a chefnogaeth yn iawn, wrth gwrs, ond cofier hefyd bod Cymru wedi bod yn anfon cenhadol Protestannaidd i Lydaw er mwyn achub Llydäwyr rhag Pabyddiaeth ers degawdau erbyn ymweliadau Cochfarf. Beth bynnag, y cam cyntaf yng nghynllun Cochfarf i ennyn diddordeb pobl Cymru yn Llydaw yw eu hannog i ymweld â’r lle:


Gellir myned i Lydaw, a threulio wythnos yn rhatach nag yn Aberystwyth, Porthcawl, neu Ynys Manaw. Ni ddylai yr un Cymro na Chymraes all fforddio gwario deg punt ar wyliau haf esgeuluso treulio eu gwyliau haf yn Llydaw. Mae y bobl yn lletygar, yn serchog, ac yn falch o’u perthynas a Chymru. (‘Canmlwyddiant Auguste Brizeux (Prifardd Llydaw), Tarian y Gweithiwr, 1 Hydref 1903, t. 5)


Sant Brieg 1906: 22-23 Gorffennaf


Rassemblement de druides à Saint-Brieuc en 1906 (photographie, auteur anonyme, Musée de Bretagne, Rennes). (source : Wikimedia Commons)


Trefnwyd ‘Grandes fêtes historiques celtiques’, Gŵyl dderwyddol a Phan-geltaidd yn Sant Brieg yn haf 1906. Ymysg y trefnwyr yr oedd Octave-Louis Aubert, François Vallée, Taldir Jaffrennou, Charles Le Goffic, Régis de L’Estourbeillon, a Jean Le Gall. Gwelir o’r llythyron ato fod Cochfarf yn ganolog i’r trefniadau i wahodd cynrychiolwyr yr Orsedd draw o Gymru, gan gynnwys yr Archdderwydd ‘Dyfed’ (Evan Rees), ac yn ddoniol ar 29 Mai mae Taldir yn gyrru nodyn atgoffa at Cochfarf i’w siarsio i beidio anghofio hanner Cymru o’r cledd: ‘Nid anghofiwch, os gwelwch yn dda hanner y cledd./ Bydd i Mr Ardalydd Estourbeillon ddwyn yno yr hanner arall, a gwnawn Priodas y Cledd am y Pumed Tro’.


Daw’r gwahoddiad swyddogol i’r Cymry mewn llythyr Cymraeg gan Taldir at Cochfarf ar 12 Mehefin 1906:


Y mae Pwyllgor y Gwyliau yn dymuno gwahoddi cenhadon o Orsedd Beirdd Ynys Prydain (yn cynnwys yr Archdderwydd Dyfed, y Derwyddon, Pwyllgor yr Orsedd, a’r Beirdd enwocaf) sef pymtheg ?kennad? o Gymry, i ddyfod i’r Gwyl honno, ac i wneud Gorsedd mewn Parc y Prefet, sef y “Governor”, ar yr 22 o fis Gorffennaf. / Y mae y Pwyllgor yn cynnig costau’r bwyd a’r ystafellau cyhyd ac y mynno Beirdd Cymru aros yn y Dref. Bydd i’r ysgrifennydd Mr Aubert ysgrifennu atoch cyn bo hir, i ofyn i chwi ymgymmeryd â’ch cymhrawdyr o’r Orsedd, i ddyfod i’r Eisteddfod honno, ac anfon genych eich gwisgoedd beirdd, y Corn Hirlas, y Delyn, y Cledd, y Faner, Hanner y Cleddyf: Beirdd Llydaw a ddaw hefyd â’u gwisgoedd a’r hanner arall o’r Cleddyf. / Rhyw fath o Gynhadledd Oll Geltaidd a fydd yn Sant Brieg y dydd hwn, yn atgofio y Gynhadledd Oll Geltaidd arall a fu yn yr un dref yn y flwyddyn 1866, deugain o flynyddoedd yn ôl.

Diddorol gweld y defnydd o ‘r gair ‘cenhadon’ yma. Yn fuan wedyn, mae’n rhaid i Cochfarf esbonio wrth Taldir na all yr Archdderwydd, na’r Cymry eraill o ran hynny, gymryd rhan mewn unrhyw seremoni orseddol ar ddydd Sul (llythyr at Taldir, 22 Mehefin 1906). Fel canlyniad, symudwyd y digwyddiadau gorseddol i’r dydd Llun, a cheir tystiolaeth bod hyn wedi peri i’r elfen dderwyddol ymddangos yn ymylol i’r Ŵyl, gan mai’r dydd Sul oedd i diwrnod llawnaf o ran niferoedd.3


Gwelir yn achos Gŵyl Sant Brieg gynnydd yn y gydnabyddiaeth swyddogol a gaiff ddigwyddiadau ‘Celtaidd’ yn Llydaw, ac mae’r Llydäwyr yn amlwg yn ymfalchïo iddynt gael cymeradwyaeth y Préfet ar gyfer eu Gŵyl. Gwelir hyn mewn nodyn ar gerdyn post gan Vallée, sydd hefyd yn mynegi pryderon y trefnwyr bod gan adfywiad Celtaidd Llydaw dipyn o waith dal fyny gyda gweithgaredd y gwledydd Celtaidd eraill:


Annwyl gyfaill, Ar ein tyb, ni ddaeth yr awr eto i’r Orsedd ddyfod i Lydaw fel yr aeth i Ddublin; ond byddai yn dra ddymunol os y gallwch ddyfod gyda â chyfeillion a beirdd (nid yw y wlad eto wedi ei pharatoi i roddi derbyniad deilwng i’r Parchedig Archdderwydd) i wneyd priodas y cleddyf (fel yn Vannes) a galw am yr heddwch. Nid yw y llywodraeth wedi tori eto y mesurau cas yn erbyn yr hen iaith a’r pregethwyr. Ond y mae “Prefet” (dyn y llywodraeth) yn St Brieuc yn llawn o garedigrwydd ac yn offrymu i ni ardd ei balas. (di-ddyddiad, Casgliad Caerdydd).

Ffactor arall sy’n awgrymu bod gweithgareddau ‘Celtaidd’ yn symud allan o’r cysgodion ac yn agosach at y brif ffrwd ddiwylliannol yw’r presenoldeb milwrol. Ond yr oedd un peth allweddol wedi digwydd rhwng ymweliad y Cymry ag An Oriant a’r trefniadau hyn ar gyfer Sant Brieg, sef arwyddo’r ‘Entente cordiale’ rhwng Prydain a Ffrainc. Dyma gyfle felly i Ffrainc ddangos croeso i ymwelwyr o Brydain, ac felly anogwyd trigolion Sant Brieg i addurno eu tai yn lliwiau Ffrainc a Lloegr, a chlywyd God Save the King yn ogystal â Mae hen wlad fy nhadau!4 Mae’r datblygiad pwysig hwn mewn gwleidyddiaeth ryngwladol hefyd yn esbonio’r pwyslais yn yr areithiau ar heddwch rhyngwladol, er y dylid nodi bod Celtogarwyr Ffrainc wedi bod yn defnyddio’r ddadl hon ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg; meddylier am araith Henri Martin yn Eisteddfod Aberdâr 1861.


Mewn llythyr at Cochfarf ar 30 Mehefin 1906 sy’n rhoi manylion ymarferol y daith, mae Taldir yn gofyn iddo am enwau’r sawl fydd yn dod, gan awgrymu rhai unigolion yr hoffai’r Llydäwyr eu gweld. Gobeithia Taldir y bydd David Lloyd George yn gallu ymuno â’r ddirprwyaeth, sy’n awgrymu awydd ar ei ran i wneud argraff ar yr awdurdodau Ffrengig. Erbyn 16 Gorffennaf mae Taldir bron yn ymbil ar y Cymry i ddod mor niferus â phosib, gan erfyn arnynt i dalu’r costau teithio gan y bydd y Llydäwyr yn talu am y gwesty a’r bwyd:

ond ambosibl fydd iddo [y pwyllgor] dalu cost travel pob un [...]
Felly, gobeithiwn y gwnela y Beirdd tipyn o Sacrifice, o self aberthiant, i ddyfod yn niferol i St Brieuc, i gryfhau undeb y Celtiaid ac i gadarnhau trwy eu presenoldeb yr Entente cordial rhwng Ffrainc a Phrydain. O’n tu gwnawn pob posibl i fynd hefyd at eich eisteddfodau mor lluosog ac y medrwn fynd.


Diddorol yw gweld Taldir yn crybwyll yr ‘entente cordiale’ yn y fan hon wrth geisio taro bargen: talwch chi am eich taith, ac fe ddown ni draw i’ch Eisteddfod chi yn niferus. Ydy’r Llydäwyr felly’n gweld Pan-Geltigiaeth fel rhan o’r ‘entente cordiale’? Os felly, does dim syndod eu bod yn bwriadu can fel a ganlyn: 1) la Marseillaise 2) God save the King 3) Bro goz va zadou.


Naoned Nantes 1910


Roedd Eisteddfod Genedlaethol Abertawe wedi cryfhau’r berthynas rhwng Cymru a Llydaw ymhellach, ac yn 1910 aeth hanner cant o bobl o ardaloedd Abertawe a Chaerfyrddin draw i Naoned ar gyfer y ‘Fêtes de la Bretagne’, Gŵyl Llydaw. Ymysg y mynychwyr o Gymru roedd nifer o Faerau, W. Llewelyn Williams AS, a D. Rhys Phillips (a ddaeth yn gysylltiad allweddol rhwng y ddau ddiwylliant maes o law).

Elfen newydd yn y disgrifiadau o’r achlysur yw’r pwyslais ar fasnach a phorthladdoedd, rhywbeth a adlewyrchir yn llythyron y cyfnod. Difyr hefyd gweld tipyn o farddoniaeth yn yr erthyglau hyn. Gwelir yr un esblygiad i gyfeiriad cydnabyddiaeth swyddogol, a’r un gobaith o ddenu David Lloyd George i fynychu: ‘Diau, pe bai wedi dod, y buasai gwresogrwydd y derbyniad wedi torri dros ben pob terfynau, ac y buasai y ddwy wlad wedi ymserchu yn eu gilydd a phriodi eu gilydd, na buasau rhwyg yn bosibl ynddynt yn ein hoes ni’.5 Yn ychwanegol at hyn ceir pwyslais ar y teulu brenhinol, er enghraifft sonia araith W. Pepyat Evans am ddiddordeb Edward VII yn yr Orsedd, gan honni bod yr Orsedd wedi chwarae rôl mewn diplomyddiaeth Ffrengig-Brydeinig: ‘[the] Gorsedd had prepared the way for the good understanding which his late Majesty had secured between France and Britain.’6 Adleisir hyn yn araith Cochfarf, sy’n sôn am ‘the relationship of the British Royal family to the Gorsedd at home’. Esbonia Cochfarf yr effaith ar y gwrandawyr yn Naoned:


and when they were assured I had personally seen members of our Royal family submitting themselves to the authority of the Archdruid who stood before us as I spoke the last vestige of reserve as to the aims and purposes of the Gorseddigion seemed to melt away. (‘Nantes Festivals: Some afterthoughts. Triumph of Breton Nationalism’, The Cardiff Times , 13 Awst 1910, t. 3)

Heddwch byd-eang yw gobaith yr holl ddiplomyddiaeth, fel y dywedodd Arglwydd Faer Caerdydd: ‘[The] Gorsedd of Wales was probably the greatest force for peace in Europe at the present day’.7


Ffordd o brofi bod yr holl fusnes ‘Celtaidd’ a ‘derwyddol’ yn swyddogol yw pwysleisio pa mor Ffrengig a Phrydeinig ydyw. Byddai derbyn Bellamy, Maer dros dro Naoned, a’r awdur Paul Caillaux i’r Orsedd fel Ab Naoned a Gwenael, wedi ategu hyn. Go brin y buasai’r ddau hyn wedi ymuno heb gymeradwyaeth yr awdurdodau. Ceir yr adroddiad llawnaf o ddathliadau Naoned gan rywun o’r enw H. E. sy’n dweud ei fod yn llygad-dyst, ac sy’n disgrifio closio rhwng Ffrainc a Lloegr fel hyn:


Mae’r Ffrancod yn teimlo yn gynnes iawn at Loegr. Adroddai yr Arglwydd Faer wrthym iddo fyned i faes y chwareufa un diwrnod gyda Maer Nantes ac ychydig o’r Cymry gyda hwy, a phan eu gwelwyd, i un o’r seindyrf milwrol daro “Duw gadwo’r Brenin”, ac yr oedd pob het i ffwrdd mewn eiliad. (H. E. ‘Gorsedd Naoned: Cymru a Llydaw’n cyd-orseddu’, Y Brython Cymreig, 11 Awst 1910, t. 4-5 (t.4).)


Douarnenez 31 Gorffennaf-6 Awst 1912


Derbyniodd Cochfarf lythyr oddi wrth Taldir yng Ngorffennaf 1912 yn ceisio dwyn perswâd arno i ddod i Douarnenez:


Bydd yr Orsedd ar gopa bryn ardderchog, yr 6, o ba le y welir mor a mynydd ar hyd 30 milltir. Gwnewch eich posibl i ddyfod; cyntaf cyfaill i’r Llydawiaid yn Nghymru ni all peidio a chymeryd ei lle yn y Genhadaeth.

Mae hefyd yn gofyn iddo anfon enwau’r rhai a fyddai’n dod o Gymru i ‘Eisteddfod’ Douarnenez, sef trydedd gyngres yr Unvaniez Arvor, neu’r Fédération régionaliste de Bretagne, a sefydlwyd yn 1911. Dylai Cochfarf anfon rhestr ato ef (ar gyfer y wasg), ac un arall at Leon Le Berr, ysgrifennydd y Gynghrair, er mwyn iddo drefnu llety. Ymddengys na fynychodd Cochfarf y tro hwn, ac anfonodd Taldir gerdyn post ato yn adrodd iddo gwrdd â Daniel Radcliffe, perchennog llongau o Gaerdydd, yn Douarnenez: ‘Jest wedi gweled Mr D Radcliffe, ac wedi siarad llawer o Gymru, o Llydaw, ac o’r pethau sy’n ein huno, wedi siarad oddiwrthych hefyd’.8 Anfonodd gerdyn arall tua’r un adeg yn gofyn i Cochfarf gyhoeddi’r canlynol yn y wasg:

A generous Welshman. The Bretons at their eisteddfod of Douarnenez have seen the honour of the visit of Mr Daniel Radcliffe, shipowner at Cardiff, a true Welsh patriot. The distinguished delegate was introduced par the bard Taldir, and received a hearty welcome. Before leaving the fetes, Mr Radcliffe offered to the Breton bardic college a price of 5 pounds for the competitions of 1913.9 


Bu farw Cochfarf ar 18 Tachwedd 1912.

[Lettre d’Edward Thomas à Jean Le Fustec] (Version 1). NAKALA (Huma-Num – CNRS).


Llythyr gan Cochfarf sy’n dangos pa mor frwd oedd dros feithrin cysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw.10


Archifau


Ceir casgliad o lythyron am Lydaw ac o Lydaw ymysg papurau Cochfarf yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd. Cardiff MS 4.1322, courtesy of Cardiff Libraries.


Papurau Newydd Cymru Papurau Newydd Cymru – Hafan (llyfrgell.cymru)


Ceir 10 llythyr gan Cochfarf ym mhapurau Jaffrennou, ‘Lettres de Grande-Bretagne’, Cote 44J104, yn Archives départementales du Finistère

Erthygl gysylltiedig ’Dechrau darganfod archifau’r Cymry yn Llydaw | DreAM-CollEx (hypotheses.org)


Ceir 4 neu 5 llythyr gan Cochfarf yn y CRBC. Maent wedi eu digido yma

  1. Llythr at Cochfarf, Gorffennaf Casgliad Llyfrgell Ganolog Caerdydd. []
  2. H.E., ‘Gorsedd Naoned: Cymru a Llydaw’n cyd-orseddu’, Y Brython Cymreig, 11 August 1910, pp. 4-5 (4). Disgrifia yr erthygl y daith sydd dan sylw fel nawfed ymweliad Cochfarf â Llydaw. []
  3. Erwan Le Gall, ‘1906 : les fêtes celtiques et militaires de Saint-Brieuc’ 1906 : les fêtes celtiques… et militaires de Saint-Brieuc | Ar Brezel (hypotheses.org) cyrchwyd 9 Gorffennaf 2024. []
  4. Erwan Le Gall, ‘1906 : les fêtes celtiques et militaires de Saint-Brieuc’ 1906 : les fêtes celtiques… et militaires de Saint-Brieuc | Ar Brezel (hypotheses.org) cyrchwyd 9 Gorffennaf 2024. []
  5. ‘Gorsedd Naoned: Cymru a Llydaw’n cyd-orseddu’, Y Brython Cymreig, 11 Awst 1910, tt. 4-5 (t. 5). []
  6. ‘Celtic fetes at Nantes’, gan ‘special correspondent’, Evening Express, 3 Awst 1910, t. 2. []
  7. ‘Celtic fetes at Nantes’, gan special correspondent, Evening Express, 3 Awst 1910, t. 2. []
  8. Taldir at Cochfarf, 1912. Casgliad Llyfrgell Ganolog Caerdydd. []
  9. Taldir at Cochfarf, 1912. Casgliad Llyfrgell Ganolog Caerdydd. []
  10. ‘Edward Thomas, Cochfarf, proprietor, Gordon Private Hotel, 23 Charles Street, Cardiff, headed paper, July 21, 1900. Welsh : “[Lettre d’Edward Thomas à Jean Le Fustec],”  Bibliothèque numérique du Centre de recherche bretonne et celtique (CRBC), consulté le 12 décembre 2023, https://bibnumcrbc.huma-num.fr/document/4668. []

OpenEdition vous propose de citer ce billet de la manière suivante :
heatherwilliams (20 janvier 2025). Cochfarf a’i argraffiadau o Lydaw. DreAM-CollEx. Consulté le 12 janvier 2026 à l’adresse https://doi.org/10.58079/1343r


Laisser un commentaire

Votre adresse e-mail ne sera pas publiée. Les champs obligatoires sont indiqués avec *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.