“C’est le dragon rouge des Galles qui nous montrera la voie!”

Catrin MACKIE, Myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Rhydychen, Lloegr – Undergraduate student at the University of Oxford – Étudiante de premier cycle à l’Université d’Oxford

Summary / Résumé :

This article concerns the personal archives of Armand Keravel, kept in the CRBC in Brest. The piece is an analysis of a trip conducted by the cultural group “Ar Falz” to Cardiff in August 1960. It aids the understanding of cultural relations, particularly with regard to the success of bilingual education in Wales and the possibility of replicating it in Brittany.

Cet article concerne les archives personnelles d’Armand Keravel, conservées au CRBC de Brest. C’est une analyse d’un voyage par le groupe culturel “Ar Falz” à Cardiff en août 1960. L’article aide à la compréhension des relations culturelles, notamment en ce qui concerne le succès de l’enseignement bilingue au Pays de Galles, et la possibilité de le reproduire en Bretagne.

Cymru fel model i Lydaw ac ymweliad Ar Falz i Gaerdydd, Awst 1960 o archifau personol Armand Keravel

Nôl ym 1911, roedd o ddeutu miliwn o bobl yn siarad Cymraeg a thua’r un faint yn siarad Llydaweg hefyd. Erbyn heddiw, mae’r niferoedd wedi gostwng yn sylweddol; tua hanner miliwn yng Nghymru, a llai na chwarter miliwn yn Llydaw. Er gwaethaf y gostyngiad yma, bu’r ugeinfed ganrif yn gyfnod hollbwysig yn yr ymgyrch i achub y ddwy iaith. Dim ond un ffordd sydd i sicrhau dyfodol diogel i unrhyw iaith ar raddfa sylweddol: addysgu plant drwy gyfrwng yr iaith honno. I’r rheiny oedd eisiau gweld addysg ar gael drwy gyfrwng y Llydaweg yn yr 1950au, roedd y system addysg cyfrwng Cymraeg yn cynnig esiampl… a gobaith.

Traddodiad hir oedd edrych ar draws y Sianel i’r Llydawyr. Mae cipolwg yn ôl i 1915, dros 40 mlynedd cyn y cyfnod dan sylw, yn dangos diddordeb Llydaweg mewn addysg dwyieithog yng Nghymru mewn adroddiad cynhwysfawr gan Pierre Mocaër. Roedd llwyddiant cynnar yr ymgyrch dros addysg cyfrwng Cymraeg yn rhywbeth yr roedd y mudiad Llydaweg yn awyddus iawn i’w astudio a’i efelychu. Agorwyd yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyntaf yn Aberystwyth ym 1939, a’r ysgol uwchradd ddwyieithog gyntaf bron i ddau ddegawd yn ddiweddarach yn Llanelwy ym 1956. Yn yr un flwyddyn, gwnaethpwyd addewid gan Lywodraeth Ffrainc i bwyllgor C.E.L.I.B. (Le Comité d’étude et de liaison des intérêts bretons) y byddai ymweliad i Gymru yn digwydd rhwng 1956 ac 1957. Byddai ymchwilwyr ac adolygwyr annibynnol yn edrych ar effeithlonrwydd y system addysg yng Nghymru ac yn ystyried a fyddai’n bosib ei hefelychu yn Llydaw. Ond ni ddigwyddodd yr ymweliad. Gallwn gymryd bod y mudiad, yn ei siom a’i rhwystredigaeth, yn barod i gefnu ar unrhyw addewid gwag arall gan y wladwriaeth. Fe benderfynodd y mudiad fynd ati felly i drefnu eu hymweliadau eu hunain i Gymru mewn grwpiau llai. 

Yn ystod Haf 1959, cysylltodd Armand Keravel, aelod blaenllaw  o’r grwp diwylliannol Ar Falz, a oedd yn ffocysu ar addysg cyfrwng Llydaweg, gyda Dr Glyn Ashton, llyfrgellydd yn llyfrgell Salisbury yn y brifysgol yng Nghaerdydd. Roeddent yn trafod Caerdydd fel lleoliad nesaf “Skol Hanv” (Ysgol Haf) Ar Falz, ymweliad diwylliannol flynyddol y grwp i godi ymwybyddiaeth am eu gwaith. Ers sefydliad Ar Falz ym 1933, cynhaliwyd pedwar ar ddeg “Skol Hanv” mewn ardaloedd gwahanol yn Llydaw, gyda’r cyntaf yn 1946. Y trip i Gaerdydd oedd y pymthegfed, a’r cyntaf y tu allan i Lydaw. 

Roedd y berthynas rhwng Keravel a Dr Ashton yn un dda ac roedd Dr Ashton wedi mynychu’r Skol Hanv y flwyddyn flaenorol yn Morbihan yn Llydaw. Yn y gwahoddiad i’r digwyddiad hwnnw, ysgrifennodd Keravel:

“Plusieurs de nos militants connaissent le Pays de Galles, quelques uns ont étudié le Gallois- tous aimerait être au courant du mouvement culturel gallois, mouvement qui embrasse toute la population et réalise précisement ce que nous voudrions voir réussir dans notre Bretagne” 

“Mae llawer o’n haelodau yn adnabod Cymru, ac mae rhai ohonynt yn astudio Cymraeg- buasen nhw i gyd yn hoffi bod yn ymwybodol o’r mudiad diwylliannol Cymreig, mudiad sy’n cofleidio’r boblogaeth i gyd a sy’n llwyddo i wneud popeth rydym ni eisiau ei weld yn llwyddo yn ein Llydaw ni.”

Ar gyfer Skol Hanv 1960 yng Nghaerdydd, gwnaethpwyd trefniadau manwl iawn gan Dr Ashton ac Armand Keravel. Mae’r archifau personol yn llawn amserlenni. Yn yr wythnosau cyn yr ymweliad, bu datganiad am bwysigrwydd yr ymweliad mewn papurau newydd lleol a chenedlaethol yng Nghymru – roedd hi’n bwysig bod pobl yn gweld y berthynas yn cryfhau rhwng Cymru a Llydaw. Mae’n amlwg nad ymweliad o bwys i’r Llydawyr yn unig oedd Skol Hanv Caerdydd, ond cyfle i Gymru fagu hyder yn ei rôl blaengar fel gwlad yn ymfalchio yn ei hiaith leiafrifol ac yn ennyn parch wrth wneud hynny. Roedd yn gyfle i Gymru berfformio. Roedd yr Eisteddfod, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, y BBC a Phlaid Cymru yn rhan o’r amserlen a’r trefniadau. Yn ogystal â sawl darlith, cynhaliwyd trafodaethau a gwersi Cymraeg bob bore gan Dr Ashton, ac ambell noson lawen hefyd.

Roedd yr ymweliad llawer yn fwy llwyddiannus na’r disgwyl. Yn y llythyron cynnar, mae Keravel yn sôn am ugain o deithwyr i Gaerdydd, ac felly trefnodd Dr Ashton lety yn ysgol arbennig Gabalfa i 30 o bobl. Ond erbyn y rhestr terfynol roedd y nifer wedi mwy na dyblu gyda 56 enw arno, gan gynnwys rhai o fawrion y mudiad megis Pierre Helias, Charles le Gall ac Andre le Mercier. 

Roedd pythefnos Ar Falz yng Nghaerdydd yn llewyrchus dros ben. Roedd yr échange culturel rhwng y ddwy wlad yn rhoi ysbrydoliaeth cydfuddiannol. Wrth gwrs, byddai hi’n anodd dadlau mai’r ymweliad yma i Gymru oedd y prif gyfraniad i sefydlu ysgolion Diwan (ysgolion cyfrwng Llydaweg) yn yr 1970au ac 80au. Ond eto i gyd, nid oes modd chwaith tranbrisioesiampl a dylanwad y Cymry ar y 56 o Lydawyr ddaethi Gaerdydd. Gellir, yn wir, dweud mai tân y ddraig goch oleuodd y llwybr ymlaen i’r Llydawyr yn eu brwydr i ddiogelu eu hiaith a’u diwylliant. 

Llun o fudiad Ar Falz yng Nghaerdydd, Le Télégramme, 22ain o Awst 1960

Dyfyniad o’r teitl: Pierre Mocaër, Questions Régionalistes:  L’Enseignement bilingue au Pays de Galles (1915)


OpenEdition vous propose de citer ce billet de la manière suivante :
catrinmackie (16 novembre 2023). “C’est le dragon rouge des Galles qui nous montrera la voie!”. DreAM-CollEx. Consulté le 13 janvier 2026 à l’adresse https://doi.org/10.58079/11oed


Laisser un commentaire

Votre adresse e-mail ne sera pas publiée. Les champs obligatoires sont indiqués avec *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.